Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £367,000 ar gyfer pentref gwyddoniaeth newydd yng Nghaerdydd.
Bydd y nawdd, a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart yn gymorth i GE Healthcare yng Nghaerdydd i sefydlu Pentref Arloesi Agored gwerth miliynau o bunnoedd.
Y gobaith yw y bydd y pentref yn gartref i wyth i 10 o fusnesau gwyddorau bywyd newydd, gan greu hyd at 25 o swyddi gyda’r potensial am ragor yng nghamau dilynol y prosiect.
Daw’r £367,000 o gronfa rhaglen Arloesi Agored Llywodraeth Cymru, ac fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cam cyntaf, sef codi swyddfeydd a labordai.
Mae’r sector gwyddorau bywyd yn cyflogi tua 11,000 o bobol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Sector Gwyddorau Bwyd
Wrth gyhoeddi’r nawdd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae’n fwriad pendant gennyf i gefnogi’r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, sydd â photensial rhagorol i dyfu ac i greu swyddi sy’n gofyn am sgiliau crefftus iawn.
“Mae GE Healthcare yn un o Gwmnïau Angori Llywodraeth Cymru a bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau eu presenoldeb yma ac yn helpu i greu busnesau newydd yn y sector yn ogystal.
“Bydd Pentref Arloesi GE yn helpu Cymru i gynyddu ei chyfran o’r gwaith masnacheiddio ymchwil prifysgolion sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig, maes yr ydym yn tanberfformio ynddo ar hyn o bryd.
“Bydd y cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddenu mewnfuddsoddwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i greu presenoldeb yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Swyddog Technoleg Gwyddorau Bywyd GE Healthcare, Ger Brophy: “Mae’n bleser gan GE Healthcare fuddsoddi i gefnogi busnesau gwyddorau bywyd gyda’n labordai a’n harbenigedd ym maes biotechnoleg a busnes.
“Bydd Pentref Arloesi GE yn cryfhau cymuned gwyddorau bywyd Cymru ac yn cynyddu cyfleoedd GE i gydweithio ar brosiectau gwyddorau a thechnoleg er mwyn helpu iechyd cleifion ar hyd a lled y byd.”