Mae Pont y Borth, sy’n croesi o Fangor i Ynys Môn dros afon Menai, yn ymddangos fel rhan o gasgliad o stampiau dosbarth cyntaf diweddara’r Post Brenhinol.
Mae’r bont 176.5m o hyd, a gafodd ei chwblhau yn 1826 gan Thomas Telford, wedi cael ei disgrifio gan y Post Brenhinol fel un o’r rhai mwyaf “mawreddog” drwy holl wledydd Prydain.
Cyn ei hadeiladu, dim ond ar y dŵr y gellid teithio rhwng yr Ynys a’r tir mawr, ac mae’n parhau i gludo’r A5.
Bwriad y stampiau yw dathlu’r datblygiad sydd wedi bod mewn peirianneg gan bensaeri blaengar, yn ôl y Pat Brenhinol, ac fe fydd y stampiau’n mynd ar werth heddiw.
Mae pontydd eraill yn y gyfres yn cynnwys:
* Tarr Steps (Exmoor);
* Pont Row (Lake District);
* Pont Pulteney (Caerfaddon);
* Pont Craigellachie (Moray);
* Yr High Level Bridge (Newcastle/Gateshead);
* Pont y Royal Border (Berwick-upon-Tweed);
* Pont Tees Transporter (Middlesbrough);
* Pont Humber (Scunthorpe);
* a’r Peace Bridge (Gogledd Iwerddon)