Julie Morgan - wedi cynnig y gwelliant
Methu wnaeth yr ymgais yn y Cynulliad i wneud taro plant yn anghyfreithlon.

Roedd y bleidlais yn y diwedd yn glir: 36 – 16 yn erbyn, gyda dim ond dwy AC Llafur yn siarad o blaid y gwelliant i’r Bil Trais yn Erbyn Menywod.

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi ceisio rhwystro llwybr y mesur hwnnw oherwydd ffrae gyda’r Llywodraeth.

Y ddadl

“Fe fyddai pleidlais tros y gwelliant heddiw yn bleidlais tros blant Cymru,” meddai Julie Morgan, yr AC a gynigiodd y gwelliant.

Fe fyddai hwnnw wedi cael gwared ar amddiffyniad sydd gan rieni rhag cael eu cosbi am daro plant.

Ond roedd eraill, gan gynnwys y llefarydd Ceidwadol ar iechyd, Darren Millar, yn dweud y byddai’r gwelliant yn troi llawer o rieni’n droseddwyr.

Ymgais i rwystro

Yn ystod y drafodaeth, roedd y Llywodraeth wedi gwrthod sawl gwelliant gan y gwrthbleidiau yn ceisio cryfhau rôl addysg yn y Bil.

Oherwydd hynny, fe aeth y gwrthbleidiau ati i danseilio’r mesur, gan sicrhau bod rhannau’n anghyson – eu gobaith yw y bydd rhaid mynd yn ôl gam neu ddau yn y drafodaeth ar y mesur.

Roedd y Democrat Rhyddfrydol, Peter Black, er enghraifft wedi galw am sicrhau bod un aelod o staff ym mhob ysgol yn cael ei benodi i ddelio gyda materion trais yn erbyn menywod.

Roedd Jocelyn Davies o Blaid Cymru hefyd wedi galw am gynnwys gwersi ar berthnasau iach ac mae wedi dweud na fydd y Blaid yn gallu cefnogi’r Bil heb gymal o’r fath.

Gwrthod y gwelliannau wnaeth y Gweinidog tros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.