Mae Heddlu’r De wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn, 42 oed mewn tafarn ym Mhontypridd.

Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn y Morning Star yn ardal Graig ym Mhontypridd tua 7.30yh nos Sadwrn, 28 Chwefror lle cafwyd hyd i gorff Darran Almond, oedd yn byw’n lleol.

Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y digwyddiad a heddiw cafodd  Stephen John Richardson, 42, a David William Dunn, 31, eu cyhuddo o lofruddio Darran Almond.

Fe fyddan y ddau,  o ardal Graig, yn mynd gerbron Llys Ynadon Pontypridd bore dydd Mercher, 4 Mawrth.