Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi £88,600 i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru dros y flwyddyn nesa’ i geisio cynorthwyo’r mudiad i barhau â’u gwaith.

Cafodd y mudiad eu siomi fis diwethaf ar ôl clywed eu bod wedi colli allan ar gronfa arian gan y llywodraeth oedd werth £300,000 dros dair blynedd.

Ers hynny mae’r Llywodraeth wedi bod yn cynnal trafodaethau â’r mudiad i geisio dod i ryw fath o gytundeb er mwyn sicrhau ei dyfodol ariannol.

Mae CFfI Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, ond wedi cydnabod hefyd eu bod yn parhau i wynebu her o ran ariannu ei hun yn y tymor hir.

Parhau â’u gwaith

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n awyddus i helpu CFfI Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o “barhau â’i waith pwysig yn datblygu ffermwyr ac arweinwyr amaethyddol y dyfodol”.

“Fel gydag unrhyw ddiwydiant llwyddiannus, mae’n rhaid wrth adfywio’n rheolaidd, gwaed newydd a syniadau newydd,” meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.

“Yn hyn o beth, rwy’n benderfynol o weld pobl ifanc, dawnus a chymwys yn mynd ymlaen i arwain busnesau amaethyddol yn sector amaethyddol Cymru.

“Yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a CFfI Cymru, rydym wedi penderfynu bod yn rhaid i’r mudiad, os yw am fynd yn ei flaen yn llwyddiannus, roi model busnes newydd ar waith.

“Rwyf wedi cyhoeddi grant i’r mudiad o £88,600 dros y deuddeg mis nesaf. Bydd yn caniatáu iddo gynyddu ei gapasiti mewnol a datblygu cynllun busnes pum mlynedd cadarn i roi cyfeiriad clir a dyfodol cynaliadwy i’r mudiad.”

Pwysigrwydd

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd CFfI Cymru fod yr arian ychwanegol yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y mudiad.

“Mae CFfI Cymru yn croesawu’r datganiad ysgrifenedig gan Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans heddiw ynglŷn â chefnogaeth ariannol i CFfI Cymru,” meddai’r mudiad mewn datganiad.

“Rydym hefyd am nodi a chroesawu cefnogaeth bob un o’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth parhaol ein haelodau, cefnogwyr a rhanddeilliaid ar draws Gymru, yn enwedig felly yn ystod y mis diwethaf.

“Yn amlwg, cydnabyddir ansawdd a gwerth y gwasanaethau a ddarparir gan y Mudiad ar draws Gymru, ac mae ariannu’r gwasanaethau hynny yn y tymor hir yn her.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn deall ac wedyn gweithredu’r cynllun a gyhoeddwyd y prynhawn ‘ma.”