Cwrs golff y Celtic Manor
Mae cwrs golff enwog y Celtic Manor yng Nghasnewydd wedi cau’r bore yma ar ôl i’r gwasanaethau ambiwlans gael eu galw i ddigwyddiad yno.

Cafodd Heddlu Gwent a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i’r cwrs golff toc cyn wyth o’r gloch y bore ar ôl i gerbyd ddisgyn i mewn i lyn, ac fe gafodd un person ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae ail berson bellach wedi cael ei gludo i’r ysbyty, ond mae’n debyg nad yw’r person hwnnw mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl adroddiadau bod cerbyd amaethyddol bychan wedi rholio i mewn i lyn ar y cwrs.

“Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad am 8.05yb heddiw yn y Celtic Manor ger llyn ar gwrs 2010,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

“Cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i gerbyd gwympo i mewn i’r dŵr.

“Mae ein ymholiadau yn parhau.”

Cafodd twrnament Cwpan Ryder ei chynnal ar gwrs y Celtic Manor yn 2010, ac roedd y gwesty hefyd yn gartref i gynhadledd NATO y llynedd.