Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £14 miliwn i helpu cynghorau sir i addasu eu gwasanaethau gofal cymdeithasol dros y ddwy flynedd nesaf.

O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu gyda bwriad i hybu annibyniaeth a rhoi llais cryfach i bobol.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod cyllid ychwanegol ar gael wrth annerch cyfarfod o gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yng Nghaerdydd. Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i:

  • alluogi Cyngor Gofal Cymru i ddatblygu strategaeth dysgu a datblygu genedlaethol (£1m);
  • helpu i ddatblygu a gweithredu cynlluniau hyfforddi rhanbarthol traws-sector (£7.1m, fydd yn cynyddu i £11m gydag arian cyfatebol awdurdodau);
  • gefnogi’r broses ymsefydlu, gyda’r bwriad o drosglwyddo arian i’r Grant Cynnal Refeniw o 2017-18 (£3m).

Arweiniad

“Rydyn ni bob amser wedi cydnabod bod rhoi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar waith – a thrwy hynny y system newydd y ar gyfer gofal cymdeithasol y mae galw amdani – yn gofyn am lawer mwy na chreu deddfwriaeth, er mor bwysig yw hynny,” meddai Mark Drakeford.

“Wrth i ni symud tuag at roi’r Ddeddf ar waith, bydd angen i bawb barhau i gynnig arweiniad pwrpasol ac uchel ei broffil fel hyn, gan gynnwys gweithio gydag ystod eang o sefydliadau a phartneriaid, hyd yn oed y tu hwnt i ffiniau arferol y sector gofal cymdeithasol traddodiadol.”