Mae capten tîm criced Lloegr wedi bod yn trafod y ffaith nad yw’n canu anthem y wlad cyn gemau rhyngwladol.

Daw Eoin Morgan o Ddulyn. Wedi iddo chwarae criced i’r Werddon fe benderfynodd gynrychioli Lloegr yn 2009.

“Dw i erioed wedi canu’r anthem genedlaethol, boed hynny wrth chwarae i’r Werddon neu Loegr,” meddai capten tîm criced undydd Lloegr.

“Nid yw’n fy ngwneud fymryn yn llai balch o fod yn gricedwr Saesneg. Rydw i’n hynod falch o fy safle ac yn ei chael yn anrhydedd bod yn gapten ar dîm yng Nghwpan y Byd.”

Pan ofynnwyd iddo ymhelaethu ar ei benderfyniad i beidio â chanu ‘God Save The Queen’, ychwanegodd Morgan: “Mae’n stori hir. Mae’n rhywbeth personol.”

Mae’r darlledwr cegog Piers Morgan wedi awgrymu ar ei gyfrif trydar y dylai capten tîm criced undydd Lloegr ganu’r anthem.

Bu i Eoin Morgan chwarae 23 o gemau i’r Werddon cyn troi at Loegr, ac mae ganddo 181 o gapiau tros y wlad honno.

Fe sgoriodd 119 o rediadau yn erbyn Yr Alban yng Nghwpan y Byd ddydd Llun.

Ond gydag Iwerddon wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, mae cyn-gapten Awstralia Steve Waugh wedi awgrymu hwyrach fod Morgan yn edifar o fod wedi gadael gwlad ei febyd i chwarae tros y Saeson.