Llun o un o'r cleddyfau gafodd eu dwyn
Mae dau gleddyf wedi cael eu dwyn gan gasglwr yn ystod lladrad mewn tŷ ar Heol Meisgyn yn ardal Cathays o Gaerdydd.
Digwyddodd y lladrad rhywbryd rhwng 1yp dydd Gwener, 20 Chwefror a 10yb y bore canlynol.
Cafodd y cleddyfau eu cymryd wedi i rywun dorri mewn i garej yng nghefn y tŷ.
Roedd un o’r cleddyfau yn ddu gyda llafn fflat ag addurniadau arno. Mae’r gair Burgin wedi cael ei sgwennu ar lafn y cleddyf.
Mae’r llall yn gleddyf tri chornel gyda handlen bres ac mae tua 200 mlwydd oed.
Mae Heddlu De Cymru’n apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal neu unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am y cleddyfau i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 1500061615.