Jeremy Hunt
Fe fydd £40miliwn ar gael ar gyfer ceisiadau am iawndal gan ddioddefwyr gafodd eu cam-drin gan Jimmy Savile, meddai’r Gweinidog Iechyd Jeremy Hunt.
Ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad ynglŷn â chwynion a gafodd eu hanwybyddu am y cyflwynydd teledu, dywedodd y gweinidog y bydd yr arian yn dod o ystâd Savile a’r elusennau wnaeth o’i sefydlu.
Ychwanegodd os nad oes digon o arian ar gael i’r 60 o ddioddefwyr, fe fydd y gweddill yn dod o’r pwrs cyhoeddus.
“Mae gwerth ei ystâd a’r elusennau yn parhau i fod yn £40 miliwn ac fe fydd hwn yn darparu’r iawndal ar gyfer y dioddefwyr,” meddai Jeremy Hunt.
“Fe fydd unrhyw sesiynau cwnsela fydd ei angen arnyn nhw’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd.”