Fe fyddai disgyblion ysgol yn cael gwersi am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan fesur newydd gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r mesur, mae gweinidogion y Llywodraeth wedi ychwanegu adran newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar y camau sy’n cael eu cymryd mewn ysgolion.
Pe bai’n cael ei basio, byddai gofyn i Awdurdodau Lleol benodi hyrwyddwr ar gyfer y materion hyn mewn ysgolion ac i roi canllawiau i sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Achub bywydau
“Bydd y Bil arloesol hwn yn helpu Cymru i fynd i’r afael a’r trais a’r cam-drin sy’n digwydd i ormod o fenywod yn ddyddiol. Os caiff ei basio, bydd yn achub bywydau,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.
“Drwy gydol y broses o lunio’r Bil, rydyn ni wedi gwrando ar bleidiau gwleidyddol eraill, rhanddeiliaid, ac yn fwy na dim rydyn ni wedi gwrando ar fenywod sydd wedi dioddef trais eu hunain. O ganlyniad rydyn ni wedi gwneud nifer o ddiwygiadau i gryfhau’r ddeddfwriaeth, yn arbennig o ran addysg.
Ychwanegodd: “Rwy’n credu ein bod wedi gosod cyfres gynhwysfawr o fesurau ar gyfer gwella addysg a chodi ymwybyddiaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”