Roedd yna ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe am hawl gweddwon plismyn i gadw pensiynau pan fyddan nhw’n ailbriodi.
Ar hyn o bryd, mae pob gweddw wnaeth golli ei gwr cyn 1987 yn colli’r pensiwn os yw’n ailbriodi. Ond mae gweddwon a gwyr gweddw y Lluoedd Arfog yn derbyn eu pensiynau hyd yn oed pan fyddant yn ailbriodi.
Roedd y ddadl ddoe wedi cael ei chynnal gan AS Caerloyw, Richard Graham, yn dilyn ymgyrch i newid y rheolau gan un o’r gweddwon o’i etholaeth, Cathryn Hall.
Ymysg y gweddwon oedd yn y gynulleidfa ar gyfer y ddadl ddoe oedd Diane Burns o Ben-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Madeleine Moon, yr Aelod Seneddol dros Ben-y-bont, ei bod hi’n bryd i gael “cyfiawnder” i’r gweddwon.
Meddai Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies AS, ei fod yn fater o “degwch” a bod “cefnogaeth” i’r ymgyrch o bob plaid yn Nhŷ’r Cyffredin.