Mae lluoedd yr Wcráin wedi dweud heddiw y bydd yn dechrau tynnu ei arfau trwm o’r rheng flaen yn unol â’r cadoediad.

Ond dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn datganiad ei fod yn cadw’r hawl i newid ei gynlluniau petai’r gwrthryfelwyr, sy’n cael cefnogaeth gan Rwsia, yn ymosod.

Ychwanegodd y datganiad mai’r arfau cyntaf i gael eu tynnu yn ôl fyddai gynnau mawr 100mm.

Mae llai o  ymladd wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf, er bod y ddwy ochr yn parhau i honni fod yr ochr arall wedi torri telerau’r cadoediad a ddaeth i rym ar 15 Chwefror.

Mae’r ymladd yn nwyrain Wcráin wedi lladd bron i 5,800 o bobl ers mis Ebrill. Mae’r cytundeb heddwch y cytunwyd arno’n gynharach y mis hwn gan arweinwyr o Rwsia a’r Wcráin, Ffrainc a’r Almaen, yn anelu at gael cadoediad llawn.

Meddai Eduard Basurin, llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr, eu bod nhw hefyd yn bwriadu tynnu nôl o bum  lleoliad heddiw.