Morgan Owen
Mae Lerpwl wedi llwyddo llawer gwell na Chaerdydd i drysori ei hanes, yn ôl Morgan Owen
Ymwelaf â Lerpwl yn fynych: bob mis, fel rheol. Fel arall, treuliaf fy amser yng Nghaerdydd ac eithrio’r gwyliau.
Yn hyn o beth, teimlaf fy mod i’n gymwys i gymharu’r ddwy ddinas, a’u tafoli yn ôl eu diwylliant, eu hunaniaeth a’u harwyddocâd.
Oherwydd yn y pethau hyn mae gwarchod etifeddiaeth cenhedloedd, ac yng nghyswllt Caerdydd, hollbwysig yw’r gwarchod, a phellgyrhaeddol ei ddiffyg.
Dim sylwedd
Fel prifddinas (a bwrw y byddai pobl y tu allan i Gymru yn ei hystyried yn wlad ‘go iawn’) byddid yn disgwyl i Gaerdydd feddu ar hunaniaeth gref ac amgyffrediad o’i le a’i phwysigrwydd yn wladol ac yn rhyngwladol.
Ond, heblaw am led-adnabyddiaeth am fod yn lleoliad i ambell i raglen deledu ac am fod yn lle bywiog i wylio gêm o rygbi, nid oes fawr o sylwedd i’w delwedd.
Darlun go wahanol a geir o Lerpwl, fodd bynnag. Wrth gwrs, ni ellir sôn am y ddinas honno heb gonsurio’r Beatles, ond y tu hwnt i’w phedwar mab enwocaf, y mae cryn hanes a chymeriad sydd yn weladwy ac yn gyffyrddadwy yna hyd heddiw.
Gwreiddiau, a pharhad y gorffennol, sydd yn dyrchafu Lerpwl uwchben Caerdydd, a thrwy ystyried sut mae’r un ddinas yn rhagori ar y llall gellir cynnig achubiaeth i Gaerdydd farwaidd.
Pensaernïaeth
Mae’r argraff gyntaf a geir o gymeriad ac ysbryd Lerpwl yn reddfol. Gwelir ar unwaith ddinas a gadwodd, ar y cyfan—er gwaethaf y Blitz— ei phensaernïaeth wreiddiol o’r adeg pan ddaeth yn ddinas o bwys.
Mae cynifer o’i hadeiladau i’w gweld fel y cafwyd hwy yn gyntaf, ac o’r herwydd, safant fel cofebau i orffennol y ddinas, ar y cyd â bod yn rhan o wead ei phresennol.
Gwêl yr ymwelydd i Gaerdydd, ar y llaw arall, gybolfa bensaernïol: dim ond rhyw ddyrnaid o adeiladau ar eu gweddau gwreiddiol; angenfilod llwydion ac annynol y 60au, y 70au a’r 80au; ac yma a thraw, creadigaethau modern ymhongar nad ydynt yn adlewyrchu ddim o hanes y ddinas na’i hesblygiad.
Mae adeiladau dinas yn ymgorffori ei hanes, ac mae eu tynnu i lawr yn ddiangen yn erydu’r hanes hwnnw.
Siopau digymeriad
Tu mewn i’r adeiladau hyn ceir arwydd o agwedd y dinasoedd tuag at eu gorffennol. Yng Nghaerdydd ceir diffeithwch o siopau cadwyn, yr un rhai â phob dinas arall.
Unwaith yr ydych yn camu dros drothwy eu drysau, gallwch fod unrhyw le yn y byd. Mae’r arcêds yn eithriaid, bid siŵr, ond pa sylw a gânt o gymharu â’r strydoedd mawr?
Pan adewir i gyfalaf byd-eang ymblannu yn y ddinas, aiff ei gorffennol ar ddifancoll oherwydd nod cyfalafiaeth hegemonaidd yw creu marchnad unffurf, gorau po fwyaf, lle y sgubir ymaith popeth sydd yn lleol ac yn neilltuedig.
Wrth gwrs, ceir siopau cadwyn yn Lerpwl hefyd, ond maent yn llawer llai niferus, ac fe’u ceir ar wasgar mewn torf o siopau annibynnol.
Mae’r fath fusnesau annibynnol yn gweithredu’n lleol, wrth reswm, ac o’r herwydd yn nodwedd unigryw’r dinasoedd y’u ceir ynddynt. Yn hyn o beth, cyfranogant o ddiwylliant y ddinas, gan ddod yn rhan ohono maes o law.
Dadwneud y diwreiddio
Ond pam sôn felly am amgylchfyd y ddwy ddinas hyn? Yn y bôn, gwelir dileu graddol a chyson yr ymwybyddiaeth o le yng Nghaerdydd, ac yn ymhlyg yn hynny, diwreiddio ei chymeriad a’i hanes.
Fel ein prifddinas a chanolbwynt gweinyddol a gwleidyddol ein gwlad, mae’r fath wacter yn niweidiol i’n hunaniaeth genedlaethol.
Nid yw Lerpwl yn brifddinas Lloegr nac ychwaith yn ddinas ag arwyddocâd arbennig bellach i economi’r wlad honno, ond erys ynddi ymdeimlad cadarn o’i chymeriad, ac ymwybyddiaeth o le neilltuedig, unigryw.
Os nad yw Caerdydd yn meithrin ymwybyddiaeth neilltuedig o’i hun fel lle â hanes a chymeriad a diwylliant arbennig, ac os nad yw hynny’n cael ei adlewyrchu yn ei amgylchfyd dynol, mi fydd yn agored i unrhyw ddylanwad a chwytho heibio, ac ni fydd Cymru ar ei hennill gyda phrifddinas ddiwreiddiedig a di-le.