Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi cyhoeddi y bydd barnwr yn arwain ymchwiliad i gwymp achos llys yn erbyn rhai o swyddogion Heddlu De Cymru yn sgil llofruddiaeth Lynette White o Gaerdydd.

Fe ddaeth yr achos o lygredd yn erbyn wyth cyn-blismon gyda Heddlu De Cymru, a oedd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, i ben yn 2011 ar gost o tua £30m.

Cafodd ei gynnal wedi i dri dyn gael eu carcharu ar gam yn dilyn yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White, 20 oed, ym Mae Caerdydd yn 1988.

Richard Horwell QC fydd yn arwain yr ymchwiliad newydd.

Yr ymchwiliad

Mae disgwyl i’r ymchwiliad fod wedi’i gwblhau erbyn haf 2015 ac fe fydd yn ystyried:

  • Pam wnaeth y prif gyfreithiwr ar ran yr erlyniad golli hyder yn y broses ddatguddio, a pham felly y rhoddwyd gorau i’r achos.
  • A gafodd 277 bocs o ddogfennau eu diystyru o fewn yr ymchwiliad gwreiddiol
  • Os oes gwersi wedi cael eu dysgu yn dilyn yr achos

“Mae yna gwestiynau o hyd sydd heb eu hateb ynglŷn â’r rhesymau pam nad oes unrhyw un wedi eu dwyn i gyfrif am yr anghyfiawnder hwn,” meddai Theresa May

“Dyna pam fy mod i wedi lansio’r ymchwiliad fydd yn ystyried pam wnaeth yr achos fethu, er mwyn i’r dynion gafodd eu carcharu ar gam, a’r cyhoedd yn gyffredinol, weld y cwestiynau hynny’n cael eu hateb.”

Cefndir

Cafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu cyhuddo o drywannu  Lynette White ym 1990 ond yn 1992 cafodd  dyfarniad y tri ei ddiddymu gan y Llys Apêl.

Yn 2003 fe wnaeth Jeffrey Gafoor bledio’n euog i’r llofruddiaeth ac fe gafodd ei garcharu am oes.