'Jihadi John' gyda'r gwystl Steven Sotloff, o’r Unol Daleithiau
Mae dyn sy’n cael ei adnabod fel “Jihadi John”, ar ôl iddo ymddangos mewn sawl fideo gan y grŵp eithafol IS, wedi cael ei enwi.
Yn ôl adroddiadau yn y Washington Post a’r BBC, mae Mohammed Emwazi o Lundain wedi cael ei adnabod gan ffrindiau ac eraill sy’n gyfarwydd ag ef.
Mae wedi ymddangos mewn fideos lle mae gwystlon, gan gynnwys y gweithiwr dyngarol o Brydain, Alan Henning, wedi cael eu dienyddio. Mae fel arfer yn gwisgo mwgwd a dillad du.
Honnir ei fod wedi cael ei fagu yng ngorllewin Llundain a’i fod wedi graddio o Brifysgol Westminster.
Mae Scotland Yard wedi gwrthod cadarnhau’r adroddiadau ac mae Downing street wedi gwrthod dweud a oedd y gwasanaethau cudd-wybodaeth yn ymwybodol o’i enw.
Dywedodd pennaeth uned wrthfrawychiaeth y Met Richard Walton, eu bod nhw wedi gofyn i’r cyfryngau “i beidio â dyfalu ynglŷn â manylion ein hymchwiliad am fod bywydau mewn perygl.”
“Nid ydym am gadarnhau enw unrhyw un ar hyn o bryd.”
Mae’r Washington Post yn honni bod Emwazi wedi’i eni yn Kuwait a’i fod wedi teithio i Syria yn 2012 cyn ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).