Ken Skates
Mae canllawiau newydd i roi cymorth i grwpiau cymunedol sy’n dymuno achub adeiladau a sefydliadau lleol rhag cau wedi cau eu lansio gan Lywodraeth Cymru.
Bwriad y Llywodraeth yw annog trigolion i gymryd sefydliadau fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd i’w dwylo eu hunain ac mae’r canllawiau’n cynnwys cynlluniau busnes a chyngor ariannol.
Daw wedi i ymchwil diweddar ddangos bod 81% o sefydliadau yng Nghymru yn cael eu rheoli gan yr awdurdodau, ond y bydd y ffigwr hwn yn cael ei gwtogi i 50% o fewn y tair blynedd nesa’.
Gwasanaethau yn dioddef
“Wrth i awdurdodau lleol wynebu pwysau ariannol cynyddol, mae’n wir y bydd rhai gwasanaethau yn dioddef,” meddai’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Ken Skates.
“Rwy’n poeni am yr effaith fydd y toriadau yn ei gael ar gyfleusterau chwaraeon a chelfyddydol yn ein cymunedau ac yn benderfynol o leihau’r effaith os oes modd.
“Mae parodrwydd i drosglwyddo asedau i’r gymuned ond mae diffyg gwybodaeth am y broses a lle i gael cefnogaeth. Bydd y canllawiau newydd yn mynd i’r afael a hynny.”