Teulu'r cartref yng Nghwmbran
Mae cyfres o adolygiadau i farwolaethau tair cenhedlaeth o’r un teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân wedi datgan y gall yr heddlu fod wedi atal y marwolaethau pe bai nhw wedi ymchwilio mwy i gefndir y llofrudd.
Fe wnaeth Carl Mills, 28, lofruddio Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i hwyres Kimberley, oedd yn chwe mis oed, drwy gynnau tân yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi 2012. Cafodd ei garcharu am 35 mlynedd.
Yn ôl adolygiad gan Fwrdd Diogelu Plant de ddwyrain Cymru, adroddiadau gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu a Bwrdd Gwasanaethau Lleol Torfaen, fe allai Heddlu Gwent a’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â’r teulu fod wedi gwneud mwy i sicrhau diogelwch y tair.
Mae beirniadaeth o’r heddlu am fethu â chasglu gwybodaeth am hanes troseddol Mills yn Bolton, ger Manceinion ac am beidio gweithredu i atal y trais.
Cefndir
Roedd Mills, 26 oed, wedi cwrdd â’i bartner Kayleigh ar Facebook yn 2010 pan oedd hi’n 15 oed ac o fewn misoedd roedd wedi symud i Gwmbrân.
Fe ymosododd ar y cartref am ei fod yn credu bod Kayleigh yn cael perthynas a dyn arall ac roedd yn genfigennus o’r berthynas agos a oedd ganddi gyda’u merch fach Kimberley.
Roedd Mills wedi bygwth droeon y byddai’n llofruddio Kayleigh a’u babi, a llosgi eu tŷ i’r llawr. Y diwrnod cyn iddo gynnau’r tân roedd wedi anfon cyfres o negeseuon tecst bygythiol at Kayleigh.
Cwynion
Pan oedd yn byw yng ngogledd Lloegr, cafodd 45 achos o drais gan Mills eu cofnodi, gan gynnwys bygwth ei fam gyda chyllell, ond ni ddaeth hyn i’r fei yn dilyn ymholiad cyntaf gan Heddlu Gwent.
Dim ond ym mis Ebrill 2012 daeth yr heddlu â gwybodaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol bod hanes troseddol Mills yn cynnwys bod ag arf yn ei feddiant a bygwth lladd.
Gwasanaeth israddol
Dywedodd Comisiynydd Cwynion yr Heddlu dros Gymru, Jan Williams: “Fyddwn ni byth yn gallu dweud os byddai’r tair marwolaeth drasig wedi gallu cael eu hosgoi petai camau gwahanol wedi cael eu cymryd.
“Ond yr hyn sydd yn glir o’n hymchwiliad ni ydi fod lefel y gwasanaeth a dderbyniodd y teulu gan yr heddlu mewn ymateb i’w honiadau o ddifrod troseddol wedi disgyn yn llawer is na’r safonau’r gallen nhw ei ddisgwyl.
“Fe fethodd y swyddogion oedd yn gyfrifol am ddelio gyda’r honiad â defnyddio gwybodaeth o ddigwyddiadau blaenorol oedd yn ymwneud â Carl Mills a theulu’r Buckley, a methu defnyddio’r adnoddau oedd ar gael iddyn nhw.”