Mae dod yn “anoddach i gyfiawnhau” ffi trwydded y BBC yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.
Daeth Ymddiriedolaeth y BBC, a’i gadeirydd Rona Fairhead, hefyd o dan y lach yn yr adroddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wrth iddyn nhw alw am ddiddymu’r Ymddiriedolaeth gan ddweud ei fod wedi “methu â chyflawni disgwyliadau”.
Ac mae cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Margaret Hodge, hefyd heddiw wedi tynnu sylw at rôl Rona Fairhead yn y gorfforaeth ar ôl honiadau fod cangen y Swistir o fanc HSBC wedi helpu cwsmeriaid cyfoethog i osgoi talu trethi.
Fe wnaeth Rona Fairhead – sydd wedi bod yn aelod o fwrdd y banc ers 2004 – gymryd yr awenau yn yr ymddiriedolaeth ar ôl i’r Arglwydd Patten roi’r gorau iddi’r llynedd.
Meddai’r adroddiad nad oes opsiwn gwell na ffi’r drwydded yn y tymor byr ond ychwanegodd nad yw’n ofynnol talu’r ffi i wylio iPlayer ar hyn o bryd ac y dylai gwylio teledu ar y cyfrifiadur gael ei ychwanegu at dermau’r drwydded “cyn gynted â phosibl”.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC wedi gostwng o ganlyniad i helyntion diweddar gan gynnwys taliadau diswyddo a welodd George Entwistle yn derbyn £450,000 ar ôl treulio dim ond 54 diwrnod fel cyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth, y £100 miliwn gafodd ei wario ar brosiect digidol sydd erbyn hyn wedi ei ddiddymu, sgandal Jimmy Savile ac ymchwiliad Newsnight a arweiniodd at y diweddar Arglwydd McAlpine yn cael ei gyhuddo o gam-drin plant ar gam.
‘Niweidio’r BBC’
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, John Whittingdale, fod y BBC wedi “dioddef cyfres o drychinebau” dros y blynyddoedd diwethaf ond ei fod yn “parhau i fod yn sefydliad sy’n cael ei edmygu’n eang”.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd ganmol allbwn plant y BBC a dywedodd fod y darlledwr wedi llwyddo i wneud arbedion heb effeithio gwerthfawrogiad y gynulleidfa o’i wasanaethau.
Ond dywedodd fod angen i’r gorfforaeth fod yn “feiddgar ac yn agored” am doriadau pellach ac y dylai anelu i fod yn “fwy tryloyw.”
Ond mae’r Athro Steven Barnett, a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor, wedi beirniadu’r adroddiad, gan ddweud y byddai’r argymhellion yn niweidio’r BBC.
Beirniadodd yr argymhelliad ar gyfer Comisiwn Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus annibynnol (PSBC) i ddisodli Ymddiriedolaeth y BBC, asesu perfformiad y BBC, a phennu lefel y cyllid cyhoeddus sy’n cael ei roi i’r BBC.