Mae’r nofelydd a’r beirniad llenyddol John Rowlands wedi marw’r bore yma yn 76 oed.
Roedd wedi bod yn dioddef o lewcemia.
Yn frodor o Drawsfynydd, cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg y Brifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen.
Bu’n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac ym Mhrifysgol Cymru ac ers iddo ymddeol bu’n gweithio fel cynorthwyydd ar gyrsiau ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Cyhoeddodd saith nofel gan gynnwys Lle bo’r Gwenyn a’r gwaith dadleuol Ieuenctid Yw ‘Mhechod ac mae’n cael ei ystyried fel un o’r prif ddylanwadau ar nofelwyr cyfoes Cymreig.
Roedd John Rowlands a’i wraig, Eluned, hefyd yn cynnig gwely a brecwast yn eu cartref yn Y Goeden Eirin yn Nolydd, Caernarfon.
‘Beirniad llenyddol gorau ei genhedlaeth’
Mewn teyrnged iddo, dywedodd y Dr Simon Brooks:
“Roedd o’n ddyn hyfryd ac yn gyfarwyddwr PhD arna i yn y coleg yn Aberystwyth.
“Dw i’n meddwl mai fe oedd yr athro gorau a gafwyd mewn adran Gymraeg yng Nghymru erioed.
“Roedd yn nofelydd gwych wrth reswm, roedd yn feirniad llenyddol blaengar ond dw i’n meddwl mai’r hyn sydd mor annwyl amdano yw ei fod wedi bod yn athro mor wych ac wedi codi to o fyfyrwyr a phobol ifanc – ac wedi bod mor gefnogol iddyn nhw.
“O ran ei waith academaidd, fo yn sicr oedd beirniad llenyddol gorau ei genhedlaeth. Mi oedd yn ddyn blaengar iawn yn mynd i’r afael a syniadau nad oedd yn cael eu trafod yng Nghymru ar y pryd ac yn dod a nhw i mewn i’r byd Cymraeg.
“Yr hyn oedd o’n ei wneud oedd peri bod modd dirnad ac amgyffred y syniadau hyn, oedd ddim yn syniadau hawdd, ond mi roedd ganddo’r gallu i grynhoi’r pethau yma i’r genedl.”
Ychwanegodd y bardd Fflur Dafydd: “Mor drist i golli John Rowlands. Athrylith o awdur a beirniad, a fu mor hael wrth hybu eraill.”