Mered
Fe fu farw Meredydd Evans – Mered – cawr ym myd adloniant ac ymgyrchydd iaith a heddwch.

Roedd wedi ei daro’n wael yr wythnos ddiwetha’ ac wedi bod yn anymwybodol yn yr ysbyty.

Roedd yn 95 oed ac wedi bod yn ffigwr cenedlaethol ers 70 o flynyddoedd, yn ganwr ac arloeswr ym myd adloniant ysgafn ac yn, ei flynyddoedd ola’, yn arweinydd ysbrydol i ymgyrchwyr iaith.

Bywyd cynnar

Cafodd Dr Meredydd Evans – neu Merêd – ei eni yn Llanegryn, Sir Feirionnydd yn 1919 a’i fagu yn Nhanygrisiau, ac ef oedd yr olaf o 11 o blant.

Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed i fynd i weithio i’r Co-op, ond aeth yn fyfyriwr i Goleg Harlwch ac wedyn i Fangor i astudio Athroniaeth, gan raddio yn 1945.

Fe ddaeth yn enwog i ddechrau yn yr 1940au bryd hynny pan oedd yn aelod o Driawd y Coleg – y grŵp cynta’ i gael enwogrwydd trwy gyfrwng y radio.

Ef oedd prif gyfansoddwr eu caneuon – gan fenthyg elfennau o ganeuon poblogaidd y cyfnod – ac fe ddaeth rhai, fel Triawd y Buarth a Beic Peni Ffardding, yn fath o ganeuon gwerin modern

America a’r byd academaidd

Wedi symud i’r Unol Daleithiau, wedi iddo gyfarfod â’i wraig y gantores opera o’r America, Phyllis Kinney, enillodd Ddoethuriaeth o Brifysgol Princeton yn New Jersey cyn mynd yn ddarlithydd i Boston.

Fe gafodd lwyddiant yno hefyd yn canu gwerin ac roedd y briodas yn ddechrau ar bartneriaeth hir yn ymchwilio i ganu gwerin, a’i boblogeiddio.

Daeth yn diwtor Addysg Oedolion yng Ngholeg Prifysgol Bangor, cyn cael ei benodi’n Bennaeth Adran Adloniant Ysgafn BBC Cymru yn 1963.

BBC

Yn ystod ei ddegawd gyda’r Gorfforaeth yn nyddiau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones, roedd yn gyfrifol am nifer o raglenni poblogaidd gan gynnwys Fo a Fe, Ryan a Ronnie, Hob y Deri Dando a Lloffa.

Wedi gadael y Gorfforaeth yn 1973, aeth yn diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Caerdydd am ddeuddeng mlynedd ola’i yrfa, lle’r oedd yn cynnal dosbarthiadau ar lenyddiaeth Cymru.

Canu a chyfansoddi

Y tu allan i’r byd academaidd, roedd hefyd yn adnabyddus fel canwr a chyfansoddwr.

Ynghyd â’i wraig, oedd yn gantores broffesiynol ym Michigan, ymchwiliodd yn helaeth i draddodiad canu gwerin yng Nghymru.

Cymerodd Meredydd Evans ran mewn digwyddiad i lansio gwefan gynhwysfawr o waith Dafydd ap Gwilym.

Cafodd y prosiect ei arwain gan Brifysgol Abertawe yn 2007, gan ganu tair o gerddi’r bardd canoloesol i gyfeiliant Bethan Bryn ar y delyn.

Yr ymgyrchydd

Yn ystod y 1970au, roedd yn un o ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw’r Gymraeg wrth sicrhau hawliau ym meysydd darlledu a’r Ddeddf Iaith.

Fe gorddodd y dyfroedd gydag araith o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhybuddio am y peryg i gymunedau Cymraeg.

Ym 1979, roedd yn un o dri, ynghyd â Pennar Davies a Ned Thomas, a gafwyd yn euog o ddiffodd trosglwyddydd teledu Pencarreg yn ystod yr ymgyrch hir i sefydlu S4C.

Ar hyd y blynyddoedd wedyn, fe fu’n gefnogwr cadarn i ymgyrchwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith ac yn siarad yn gyson yn ei ralïau.

Ei faes ymgyrchu arall oedd heddwch, ac fe gymerodd ran mewn llawer o brotestiadau yn erbyn rhyfel ac arfau niwclear.

Llynedd fe fu Mered yn siarad o blaid ymgyrch myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor, un o’r cyfweliadau olaf iddo roi:

Gweler teyrngedau iddo mewn straeon isod