Mae ffigurau newydd yn dangos fod dros £44 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi ei fuddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Ledled y wlad, cafodd 2,249 o grantiau eu dyfarnu yn 2014. Bu’r rhain yn gymorth i brosiectau lleol ar y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth, yn ogystal â grwpiau cymunedol.
Dyfarnwyd grantiau i amrywiaeth eang o brosiectau, yn cynnwys £4,200 i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy tuag at adnoddau a defnyddiau i gychwyn caffi ar lawr cyntaf eu hadeilad, i apelio at siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lleol.
Mae Ysgol Tryfan, Bangor yn arwain Consortiwm Cerddoriaeth Ysgolion Arfon ac mae’r ysgol wedi derbyn £5,000 i roi’r cyfle i gerddorion ifanc dawnus lleol i weithio gyda Phrifysgol Bangor; Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill, drwy’r prosiect Camerata
Derbyniodd Clwb Hwyl a Sbri Betws, ger Rhydaman, £4,950 i brynu offer chwarae rôl ac eitemau storio newydd ac fe gafodd Menter Môn Cyf £4,400 i gefnogi’r rheini sy’n siarad Cymraeg sydd wedi colli eu hyder yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i ail-sefydlu eu defnydd o’r iaith.
Gwobrau
Nawr, mae gan unrhyw sefydliad sydd wedi derbyn arian y Loteri unrhyw bryd y posibilrwydd o gael cydnabyddiaeth yn genedlaethol drwy wneud cais am Wobrau’r Loteri Genedlaethol 2015.
Mae saith categori yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol i adlewyrchu’r meysydd y mae’r Loteri’n eu hariannu – Chwaraeon, Treftadaeth, y Celfyddydau, yr Amgylchedd, Iechyd, Addysg a Gwirfoddol/Elusennol.
All unrhywun enwebu ei hoff brosiect neu gystadlu gyda’u prosiect eu hunain yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni ond bydd rhaid i bob enwebiad gyrraedd erbyn hanner nos 25 Mawrth.
Mae rhagor o wybodaeth yn www.lotterygoodcauses.org.uk.