Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobol gymryd gofal ychwanegol y penwythnos hwn yn sgîl rhybudd y gall llanw uchel achosi amgylchiadau peryglus.

Mae disgwyl i donnau uchel effeithio ar rannau o’r arfordir, yn benodol ym Mhen Llŷn ac ar arfordir Penrhyn Gŵyr hyd at gennau’r afon Gwy.

Gall y llanw uchel achosi llifogydd yn lleol o yfory ymlaen, ac mae disgwyl gwyntoedd cryfion ddydd Llun.

Bydd rhybuddion yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.