Safle'r ddamwain yng Nghaerfaddon
Mae dau ddyn a gafodd eu harestio ddoe yn dilyn damwain lori a laddodd pedwar o bobl yng Nghaerfaddon, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd gyrrwr y lori 32 tunnell, Philip Potter, 19 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a dynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Cafodd dyn arall, 28 oed, hefyd ei arestio ddoe ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Bu farw pedwar o bobl ar ôl i’r lori daro nifer o gerbydau a cherddwyr  wrth deithio i lawr allt serth yn Upper Weston, Caerfaddon toc wedi 4yp ar Chwefror 9.

Ymhlith y rhai fu farw roedd Stephen Vaughan, 34 oed o Benyrheol, Phil Allen, 52 oed o Gasllwchwr, a Robert Parker, 59 o Gwmbrân, ar ôl i’r lori droi drosodd a glanio ar eu car.

Bu farw merch bedair oed, Mitzi Rosanna Steady,  ar ôl iddi hi a’i nain gael eu taro gan y lori tra’n cerdded i lawr yr allt. Mae ei nain yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.