Fe fydd tua 200 o swyddi newydd yn cael eu creu gan gwmni peirianneg rhyngwladol yn Rhondda Cynon Taf.

Fe fydd Universal Engineering yn agor canolfan ragoriaeth newydd yn Llantrisant ac yn arbenigo mewn peirianneg ar gyfer y sector tanddwr, awyrofod a’r diwydiant amddiffyn.

Cafodd y safle 16 erw ei ddewis o restr fer o safleoedd ledled y DU a thramor oherwydd bod ganddo gysylltiadau trafnidiaeth da, sy’n cynnwys porthladdoedd dwfn Casnewydd a Chaerdydd, a gweithlu lleol crefftus, yn ôl Llywodraeth Cymru sy’n cyfrannu £2 miliwn i’r datblygiad.

Mae gwaith wedi dechrau yn y ffatri ers chwe mis ac mae 65 o swyddi wedi’u llenwi eisoes ond fe fydd y gweinidog busnes Edwina Hart yn teithio i’r safle heddiw i gyhoeddi’r swyddi ychwanegol.

Buddsoddiad

“Bydd yn hwb aruthrol i’r economi leol. Y buddsoddiad hwn yn y sector gweithgynhyrchu uwch yw’r union fath o fuddsoddiad rydyn ni am ei ddenu.

“Bydd yn creu nifer sylweddol o swyddi crefftus ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd gyrfa. Dw i’n falch o nodi hefyd fod gan y cwmni hanes o brynu nwyddau’n lleol a bydd hynny’n dod â manteision ychwanegol i gwmnïau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.”

Colegau

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Universal Engineering Mark Cooper: “Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio â cholegau lleol i fynd i’r afael â’n hanghenion o ran sgiliau yn y dyfodol.

“Mae’r trefniant newydd arloesol hwn yn cefnogi swyddi lleol ac yn fodd inni sicrhau staff â’r cymwysterau priodol er mwyn inni fedru cynnal ein safonau rhyngwladol.