Mae’r tri dyn fu farw ar ôl i lori wrthdaro yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar allt serth yng Nghaerfaddon, yng Ngwlad yr Haf, ddechrau’r wythnos  wedi cael eu henwi gan yr heddlu.

Bu farw Stephen Vaughan, 34 oed, Phil Allen, 52 oed, a Robert Parker, 59, ar ôl i’r lori droi drosodd a glanio ar eu car.

Roedd gyrrwr y car, Stephen Vaughan o Benyrheol, ger Gorseinon, yn Abertawe, yn berchen ar gwmni tacsis Elite Business Travel.

Roedd yn cludo Phil Allen, 52 oed, o Gasllwchwr, Abertawe, cyfarwyddwr gyda chwmni trydan Western Power Distribution, yn ei dacsi pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd Robert Parker o Cwmbrân hefyd yn y car ar y pryd

Bu farw merch fach pedair blwydd oed yn y ddamwain hefyd. Roedd Mitzi Rosanna Steady o Gaerfaddon yn cerdded gyda’i nain pan gawson nhw eu taro gan y lori.

Mae nain y ferch yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe wnaeth y lori, a oedd yn cludo graean, wrthdaro â cherddwyr wrth deithio i lawr yr allt serth cyn troi drosodd ar gar y dynion ar waelod yr allt.