Nel Mair Jones, enillydd Pastai Patagonia
Fe fydd modd blasu ychydig o ddiwylliant Sbaen ym Mhwllheli yn ystod yn yr wythnosau nesaf, wrth i’r dref gynnal Pythefnos Tapas Llŷn.
Y bwriad yw hyrwyddo a dathlu bwyd Cymreig lleol – ond trwy ddefnyddio ryseitiau sydd wedi’u hysbrydoli gan arferion coginio Sbaen a De America.
Mae Pythefnos Tapas Llŷn yn rhan o weithgareddau Cymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli ac mae hefyd yn anelu at ddangos gwerth y Gymraeg wrth farchnata – yn lleol ac yn rhyngwladol.
Empanada
Cafodd cystadleuaeth ei chynnal yr wythnos diwethaf yn herio plant oed cynradd yr ardal i greu rysáit empanada, math o bastai sy’n boblogaidd iawn yn yr Ariannin.
Yn ystod y pythefnos nesaf fe fydd chwe thŷ bwyta lleol yn cynnig bwyd sydd wedi’i ysbrydoli gan y gystadleuaeth honno.
Bydd y gweithgareddau Tapas Llŷn, sydd hefyd yn cynnwys gwersi Cymraeg i drigolion, yn para o 16-28 Chwefror ac yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi Sant lle bydd Parêd Dewi Sant Pwllheli yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror.
Mae’r digwyddiadau yn tynnu sylw arbennig at y dathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.