Mae disgwyl i gabinet Cyngor Gwynedd basio cynnig i gau tair ysgol yn y Bala ac uno ysgolion eraill yn yr ardal mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Wrth geisio ad-drefnu ysgolion y sir er mwyn arbed arian, fe fydd cynghorwyr yn ystyried cau Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid, ac Ysgol y Berwyn yn Y Bala a sefydlu ysgol ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.
Bydd cynnig arall i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn, Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol OM Edwards yn cael ei drafod yn y cyfarfod dydd Iau nesaf.
£9.27 miliwn fyddai’r gost o ad-drefnu ysgolion Y Bala, yn ôl y cyngor, ac fe fyddai hynny yn rhoi dyfodol “cynaliadwy” i’r addysg yno.
Symud ymlaen
Mae trafodaethau ynglŷn â’r ddarpariaeth addysg yn ardal y Bala wedi cael eu cynnal ers 2009 gan y cyngor.
“Rydw i’n gwybod fod y cymunedau lleol yn awyddus i symud y gwaith yn ei flaen cyn gynted â phosib,” medda’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Addysg.
“Nid yw’r sefyllfa fel y mae yn y Bala ar hyn o bryd yn gynaliadwy – mae niferoedd y disgyblion wedi gostwng dros y 25 mlynedd ddiwethaf gan arwain at ddosbarthiadau yn rhai o’r ysgolion i fod yn hanner gwag.
Ychwanegodd: “Nid yw’r rhai o hen adeiladau ysgolion yn ffit i bwrpas ar gyfer addysgu yn yr 21ain ganrif.”
Petai’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill. Yna, byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet. Mae disgwyl penderfyniad terfynol ym mis Medi eleni.