Simon Thomas AC
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi saith addewid ynghylch yr iaith Gymraeg y byddan nhw’n ceisio eu cadw, petaen nhw’n ennill grym, gan gynnwys ymgynghori ar Ddeddf Iaith fyddai’n gosod amodau ar y sector breifat i roi hawliau i siaradwyr y Gymraeg.
Mae’r saith addewid yn cael eu lansio gan Simon Thomas AC a Jonathan Edwards AS ym Mharc Busnes Antur Teifi heddiw.
Dyma’r addewidion:
- Ymchwilio i wario effeithiol ar hybu a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith a gwarchod y gwariant hwnnw dros gyfnod y llywodraeth;
- Cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru;
- Cyflwyno darpariaeth bellach mewn addysg bellach cyfrwng-Cymraeg gan ddefnyddio model y Coleg Cymraeg;
- Datblygu strategaeth economaidd unswydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg mewn entrepreneuriaeth a chefnogi datblygu busnesau yn yr ardaloedd Cymraeg;
- Cyflawni’r gwaith o gyflwyno safonau iaith Gymraeg ac ymgynghori ar Ddeddf Iaith i ddelio gyda’r sector preifat;
- Gwneud yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio;
- Cefnogi datganoli darlledu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Bwriad Plaid Cymru yw cyd-weithio gyda sefydliadau fel Comisiynydd yr Iaith, Cymraeg i Oedolion a’r Mentrau Iaith er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn ganolog mewn gwleidyddiaeth.
Y sector breifat
“Mae Plaid Cymru’n pwyso ar y llywodraeth bresennol i orffen y dasg o gyflwyno a deddfu ar y safonau iaith a amlinellir ym Mesur yr Iaith Gymraeg.
“Mae’r llywodraeth bresennol ar ei hôl hi gyda’r gwaith hwn.
“Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cyflawni’r gwaith ac, ar ôl i’r safonau ymsefydlu a dangos cynnydd, yn ymgynghori ar ddeddf gynhwysfawr a fydd yn dileu anfanteision y Mesur presennol a ddeillia o’r dull deddfu cydsyniad deddfwriaethol ac ystyried mesurau priodol ar gyfer y sector preifat.”