Warren Gatland
Mae bachwr tîm rygbi Cymru yn dweud bod dyletswydd ar y chwaraewyr i berfformio’n well yn erbyn Yr Alban, a hynny er mwyn ad-dalu’r ffyddlondeb mae’r hyfforddwr wedi dangos ynddyn nhw.
Dim ond un newid sydd i dîm Warren Gatland ar gyfer y gêm b’nawn Sul, gyda George North yn gorffwys yn dilyn dwy gnoc i’w ben yn ystod y golled i Loegr wythnos yn ôl.
Daw’r Scarlet Liam Williams i gymryd lle’r cawr o Fôn ar yr asgell, ond fel arall mae pob chwaraewr wedi cadw’i le.
Roedd hi’n golled boenus yng Nghaerdydd yn erbyn y Saeson, wrth i’r Cymry ildio mantais o wyth pwynt ar yr egwyl. Roedden nhw’n lwcus i golli 21-16 ar ddiwedd yr ornest.
“Fe wnaethon ni dro gwael â ni’n hunain a llawer iawn o bobol drwy golli i Loegr, yn enwedig ar ein tomen ein hunain,” meddai Richard Hibbard sy’n 31 oed ac wedi ennill 34 cap dros ei wlad.
Wedi’r tanberfformiad trychinebus mae’n ddiolchgar o ddal ei afael yn y crys coch.
“Mae cael ail gyfle yn wych.”
Nid yw Cymru wedi colli yn erbyn Yr Alban ers 2007 ac mi chwalon nhw’r Jocs yng Nghaerdydd y llynedd, 51-3.
Ond mae gwell siâp ar y cefndryd Celtaidd erbyn hyn, ac fe gollon nhw gêm agos oddi cartref 15-8 yn Ffrainc y penwythnos diwetha’.