George North yn herio Lloegr nos Wener (llun: Joe Giddens/PA)
Mae Warren Gatland wedi esbonio ei fod wedi gadael George North allan o dîm Cymru i wynebu’r Alban dydd Sul yn rhannol er mwyn “amddiffyn delwedd y gêm”.
Cafodd yr asgellwr ddau ergyd i’w ben yn ystod gêm agoriadol y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr nos Wener, ac roedd pryder ei fod yn dioddef o gyfergyd.
Er i brofion meddygol yr wythnos hon ddangos nad oedd North yn dioddef o unrhyw sgil effeithiau, penderfynodd Gatland y byddai’n chwarae’n saff ac yn gadael y chwaraewr allan er ei les ei hun.
Ond fe ddywedodd hyfforddwr bod North – yr unig newid yn y tîm – “ddim yn ddyn hapus” pan gafodd wybod y newyddion.
Amddiffyn y chwaraewr
Liam Williams fydd yn dechrau ar yr asgell yn lle George North dydd Sul, gyda Scott Williams yn cael lle ar y fainc.
Heblaw am hynny does dim newid i dîm Gatland ar gyfer y gêm yn Murrayfield, wrth i Gymru geisio taro nôl o’r golled yn y gêm agoriadol.
Ond fe esboniodd Gatland nad oedd eisiau cymryd unrhyw risg gydag iechyd North, yn enwedig gan ei fod eisoes wedi cael cyfergyd wrth chwarae i Gymru yn yr hydref.
“Tase fe heb gael clec yn yr hydref, mae’n siŵr y bydden ni wedi parhau â’r protocol [dychwelyd i chwarae] a gwneud yn siŵr,” meddai Gatland. “Ond dyfalu yw hynny.
“Allai ddychmygu petai ni heb wneud y penderfyniad yma a bod George yn mynd mas ar ddydd Sul a chael clec arall, sut mae hynny’n mynd i edrych i George a sut mae hynny am edrych i rygbi yn gyffredinol?
“Rhowch ychydig o gydnabyddiaeth i ni, tasem ni heb wneud hyn a’i fod yn cael clec arall, byddai’n ddrwg i ddelwedd y gêm ac fe fydden ni wedi cael ein beirniadu ar ôl hynny gan bob math o bobl.
“Roedden ni’n teimlo mai dyma oedd y penderfyniad iawn yn feddygol ac o ran y rygbi i George er ei les ef, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n amddiffyn delwedd y gêm.”
‘Ddim yn hapus’
Cyfaddefodd Warren Gatland nad oedd George North yn hapus i glywed y byddai’n cael ei adael allan o’r tîm, ond fod yn rhaid ystyried iechyd hir dymor y chwaraewr.
“Dyw e ddim yn ddyn hapus, allai ddweud hynny wrthoch chi. Mae e’n siomedig ein bod ni wedi ei adael e mas,” meddai Gatland.
“Ond fe ddywedais i wrtho fe mai ddim penderfyniad rygbi oedd hwn, mae’n benderfyniad er ei les ef a’i yrfa hir yn y gêm.”
Cadarnhaodd Gatland hefyd fod Samson Lee yn parhau i gael ei asesu am effeithiau cyfergyd ar ôl iddo yntau daro ei ben yn erbyn Lloegr, ond mae e wedi cael ei gynnwys yn y tîm.