Llywelyn Williams
Llywelyn Williams sydd yn edrych ar y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a Phlaid Cymru yn ei ail flog ar ymgyrchu gwleidyddol ar Facebook

Yn y blog cyntaf ar ymgyrch y pleidiau gwleidyddol ar Facebook fe edrychais i ar sut oedd y Ceidwadwyr, Llafur a UKIP yn defnyddio’r wefan gymdeithasol a pha fath o ymateb roedden nhw’n ei gael.

Felly dyma ni yn yr ail ran yn symud ymlaen at y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, gan edrych ar sut maen nhw’n ymgyrchu ar y wefan.

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Fe ddechreuwn ni gyda gweithgaredd ymgyrchu gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol ar Facebook.

Maen nhw wrth gwrs ar eu tymor olaf mewn grym yn San Steffan (am nawr!), felly mae’n ddiddorol edrych ar ba mor frwdfrydig mae’r blaid wrthi ar Facebook hyd at yr etholiad cyffredinol o’i gymharu â’r pleidiau eraill.

Nifer y ‘hoffwyr’ – 109,725

Nifer y ‘hoffwyr’ yn y DU – 69,069


Yn ôl data Socialbakers.com, gwelwyd cynnydd o 1,767 o ‘hoffwyr’ yn ystod y chwe mis diwethaf.

Dyma’r data o weithgaredd Facebook y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 27 Ionawr a 9 Chwefror.

Nifer o bostion Facebook – 29

Cyrchiadau Facebook (nifer o bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylw at y post) – 7,150

Cyfartaledd y cyrchiadau i bob post – 246

Dyma negeseuon Facebook mwyaf poblogaidd y Democratiaid Rhyddfrydol o ran cyrchiadau dros y pythefnos diwethaf.


Gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn clymblaid a’r Ceidwadwyr, mae’n anodd iawn iddynt allu ymddangos eu bod nhw’n gwneud unrhyw wahaniaeth neu weithredu polisi mewn llywodraeth.

Mae’n teimlo ar brydiau fod y Ceidwadwyr yn fwy gweledol mewn llywodraeth yn sgil eu polisïau economaidd yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan wneud niwed i blaid Nick Clegg yn sgil hynny.

*Ffioedd dysgu: Difyr iawn oedd gweld mai neges am ffioedd dysgu myfyrwyr oedd ar frig y rhestr o linciau poblogaidd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’r linc ei hun yn canolbwyntio ar geisio darbwyllo myfyrwyr o ran y ffordd y maent yn gallu talu eu ffioedd nôl heb amharu ar eu hincwm yn y dyfodol.

Difyr hefyd eu bod yn ceisio dangos eu bod nhw, o dan y system ffioedd newydd, yn talu llai bob mis o dan y glymblaid na fydden nhw o dan y Blaid Lafur!

Mae’n edrych fel ymdrech i esmwytho’r polisi ffioedd myfyrwyr yn sgil Nick Clegg yn torri’i addewid o beidio â chynyddu ffioedd dysgu cyn dod i rym yn 2010.

*Atal mwy o bolisïau Ceidwadol dod i’r neilltu: Un o brif negeseuon y Democratiaid Rhyddfrydol a ddaeth yn ail ar y rhestr o negeseuon amlgyfrwng mwyaf poblogaidd oedd y ffaith eu bod wedi atal Michael Gove, y cyn-weinidog Addysg, rhag gweithredu a gwaethygu’r system addysg ymhellach.

Maen nhw’n ei gyhuddo o ddilyn agenda ideolegol ceidwadol megis ysgolion rhydd yn gwneud elw, tynnu cynhesu byd eang o’r cwricwlwm, a system addysg dwy adran.

Y neges yw bod ‘gwerth’ cael y Democratiaid Rhyddfrydol o fewn y glymblaid, gan eu bod yn gweithredu i geisio atal mwy o bolisïau Ceidwadol fel nad yw’r wlad yn dioddef ormod.

*Economi gryfach: Torri llai o’i gymharu â’r Ceidwadwyr, benthyca llai o’i gymharu â’r Blaid Lafur.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o dorri gormod ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn cyhuddo’r blaid Lafur yn y gorffennol o or-fenthyg.

Y Blaid Werdd

Nifer y ‘hoffwyr’ – 148,849

Nifer y ‘hoffwyr’ yn y DU – 130,200


Mae nifer ‘hoffwyr’ y blaid Werdd wedi cynyddu o 74,898 ym mis Hydref i 130,200 ym mis Chwefror, cynnydd o 55,302.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf rhwng 11 a 25 Ionawr, cynnydd o 16,139. Yn ystod y dyddiau hynny wrth gwrs fe ddaeth y newyddion bod y Blaid Werdd, ynghyd â Phlaid Cymru a’r SNP, yn cael ymuno yn y dadleuon teledu cyn yr etholiad.

Yn ystod y twf hwnnw mewn ‘hoffwyr’ Facebook, mae’r Blaid Werdd hefyd bellach wedi cyrraedd 50,000 o aelodau.

Dyma’r data o weithgaredd Facebook y Blaid Werdd rhwng 27 Ionawr a 9 Chwefror.

Nifer o bostion Facebook – 28

Cyrchiadau Facebook (nifer o bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylw at y post) – 55,859

Cyfartaledd y cyrchiadau i bob post – 1,995

Isod mae rhai o negeseuon mwyaf poblogaidd y blaid ar Facebook dros y cyfnod hwnnw.


*Buddsoddi mewn tai cymdeithasol:
Buddsoddi, nid cwtogi yw motto’r blaid, amcan sy’n debyg iawn wrth gwrs i Blaid Cymru a’r SNP.

Mae’r ymrwymiad i fuddsoddi ac adeilad 500 o dai cymdeithasol newydd erbyn 2020 yn cysylltu’r Blaid Werdd gyda chyfiawnder cymdeithasol.

*Cynyddu aelodaeth y Blaid: Mae tipyn o straeon y blaid ar Facebook yn ymwneud â’r twf diweddaraf yn y polau piniwn yn ogystal â thwf mewn aelodaeth.

Bellach, rydym yn gwybod fod dros 50,000 o aelodau gan y Blaid Werdd.

*Cefnogaeth o du allan i’r blaid: Un o negeseuon mwyaf poblogaidd y blaid oedd linc i erthygl George Monbiot o’r Guardian, sydd yn ymbil ar bobl i bleidleisio dros y Blaid Werdd yn ystod yr etholiad er mwyn gwrthsefyll y ‘consensws neo-ryddfrydol’.

*Cwestiwn ac ateb ar Facebook: Cynhaliodd arweinydd y blaid, Natalie Bennett, sesiwn cwestiwn ac ateb byw ar Facebook ynglŷn â pholisïau’r Blaid Werdd.

Defnydd da o weithgaredd y cyfryngau cymdeithasol mewn ymgyrchu gwleidyddol!

Plaid Cymru

Nifer y ‘hoffwyr’ – 12,335

Nifer y ‘hoffwyr’ yn y DU – 9,322


Mae’r twf sylweddol yn yr ‘hoffterau’ rhwng dechrau mis Medi a dechrau mis Hydref yn un amlwg.

Mae’n bosib iawn yn wir mai effaith refferendwm annibyniaeth yr Alban a achosodd hyn, gan fod Plaid Cymru yn cefnogi’r ymgyrch IE oedd mor weithgar ar wefannau cymdeithasol.

Dyma’r data o weithgaredd Facebook Plaid Cymru rhwng 27 Ionawr a 9 Chwefror.

Nifer o bostion Facebook – 64

Cyrchiadau Facebook (nifer o bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylw at y post) – 4,175

Cyfartaledd cyrchiadau i bob post – 65.2

O’i gymharu â’r pleidiau eraill, mae 64 o negeseuon Facebook mewn pythefnos yn andros o uchel.

Ond rhaid cydnabod fod y blaid yn postio’r un ddelwedd ddwywaith er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn hafal â’r Saesneg.


*Cydweithio yn erbyn llymder
: Mae’r neges yn erbyn polisïau llymder San Steffan yn gryf ar dudalen Facebook y Blaid. Hefyd, mae pwyslais ar gydraddoldeb gyda’r Alban o ran pwerau, a hefyd solidariaeth bleidiol rhwng Plaid Cymru, yr SNP a’r Blaid Werdd.

*Gwrthwynebu Trident: Un o brif linciau’r blaid a gafodd y fwyaf sylw oedd Trident gyda 308 o gyrchiadau, gyda fideo Nicola Sturgeon yn cefnogi’r Blaid yng Nghymru yn boblogaidd yn ogystal. Daw’r linc yn wreiddiol o dudalen Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

*Yn erbyn ffracio: Llwyddodd Plaid Cymru yn ddiweddar i osod cynnig a basiwyd drwy’r Cynulliad a oedd yn gwrthod cynlluniau ffracio yng Nghymru. Cafodd y neges 354 o gyrchiadau.

I grynhoi neges y blaid ar Facebook felly, maent yn erbyn ffracio, Trident a pholisïau llymder, ac yn awyddus iawn i sicrhau cydraddoldeb o ran pwerau gyda’r Alban.

Mae Llywelyn Williams yn fyfyriwr Meistr yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Hon yw ei ail flog yn trafod yr ymgyrchu gwleidyddol ar Facebook. Gallwch ddarllen mwy ganddo ar Flog Gwleidyddiaeth golwg360.