Mae nifer y cleifion sy’n aros dros naw mis am driniaeth ddiagnostig yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers pedair blynedd.
Bu’n rhaid i 21,226 o gleifion aros yn hirach na’r disgwyl am driniaeth, fel sgan MRI a phrofion uwchsain, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae’r ffigwr bron deirgwaith yn fwy na thair blynedd yn ôl ac mae’r gwrthbleidiau wedi dweud bod y sefyllfa yn “warthus”.
Targed Llywodraeth Cymru yw na ddylai unrhyw glaf orfod aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth.
Cleifion mewn poen
“Nid yw hyn yn ddigon da o bell ffordd,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams.
“Mae’n rhaid cofio bod y rhan fwyaf o’r 21,226 o unigolion hyn mewn poen neu yn methu gwneud gweithgareddau bob dydd felly mae gorfod aros dros naw mis am driniaeth yn warthus.”
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones: “Mae’n rhaid gwneud yr amseroedd aros hir hyn am driniaeth ddiagnostig yn flaenoriaeth.
“Byddai Plaid Cymru yn hyfforddi ac yn cyflogi 1,000 o feddygon ychwanegol i’r GIG ac yn mabwysiadu systemau rheoli fwy cadarn.”