Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad rhyw ar ferch yn Nhrelái ger Caerdydd bnawn ddoe.
Digwyddodd yr ymosodiad ger caeau yn Heol Snowdon, Trelái tua 4yp ddydd Mercher, 11 Chwefror.
Mae’r heddlu’n awyddus i holi dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac unrhyw lygad dystion a oedd yn yr ardal ar y pryd.
Mae’r dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad tua 17 neu 18 oed, o dras gymysg gyda gwallt Affro, a mwstas du. Roedd yn gwisgo trainers gwyn.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555111.