Abertawe
Fe fydd hyd at 140 o ddatblygwyr ac asiantau eiddo arbenigol yn cyfarfod yn Abertawe heddiw i drafod cynlluniau arfaethedig ar gyfer adfywio canol y ddinas.

Bydd y cyfarfod yn gyfle i Gyngor Dinas a Sir Abertawe ddatgelu cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant newydd yng nghanol y ddinas.

Mae’r digwyddiad wedi’i seilio ar ddigwyddiad tebyg yn Llundain yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart eu bod nhw wedi cael “adborth calonogol” yn dilyn y cyflwyniad yn Llundain.

“Gwnaeth ein brwdfrydedd dros Abertawe greu argraff dda arnynt yn ogystal â’n penderfyniad i gyflawni cynllun adfywio blaengar a defnydd cymysg a fydd yn bodloni dyheadau preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe.”

Ychwanegodd fod diddordeb arbennig gan fusnesau yn agosrwydd y ddinas i Fae Abertawe a’r posibilrwydd o gael llwybr awyr a sgwâr cyhoeddus uwchben Heol Ystumllwynarth.

Pe bai digon o alw, dywedodd Rob Stewart fod y Cyngor yn barod i ystyried trefnu digwyddiad arall yn fuan.

Byddai’r datblygiad newydd yng nghanol y ddinas yn creu cyrchfan masnachu a hamdden ar safle Dewi Sant, a fyddai’n cynnwys siopau, bwytai, sinema a swyddfeydd newydd.

Fe allai hefyd gynnwys maes parcio aml-lawr ar safle presennol y Ganolfan Hamdden.

Mae Prifysgol Abertawe eisoes wedi dechrau ystyried y posibilrwydd o sefydlu canolfan ymchwil a datblygu ynni dŵr ger y Glannau, a fyddai’n cynnwys agor acwariwm newydd.