Mae cymdeithas adeiladu’r Principality wedi cofnodi elw o £53.5 miliwn cyn treth yn 2014, sef ei helw mwyaf erioed.
Mae’r ffigwr – sydd wedi cynyddu o £28.2 miliwn y flwyddyn gynt – yn cynnwys £10.1 miliwn sy’n deillio o newid yng nghynlluniau pensiwn y cwmni.
Roedd cynnydd hefyd o 500 i 2,300 yn nifer y bobol a gafodd eu helpu i brynu tŷ am y tro cyntaf.
Yn ystod y flwyddyn, cafodd asiantaeth dai Peter Alan – oedd yn eiddo’r Principality – ei gwerthu am £16.5 miliwn, ond dydy’r ffigwr hwnnw ddim wedi’i gynnwys yn yr elw.