Stephen Vaughan
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddau Gymro oedd ymhlith pedwar o bobol a gafodd eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerfaddon brynhawn dydd Llun.
Cafodd merch pedair oed, Mitzi Steady ei tharo gan lori 32 tunnell wrth iddi gerdded i lawr allt gyda’i mam-gu oddeutu 4 o’r gloch.
Mae ei mam-gu yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Tarodd y tryc yn erbyn nifer o geir cyn glanio ar ben car Volvo ar waelod y rhiw, gan ladd y gyrrwr tacsi Stephen Vaughan, 34 oed, a chyfarwyddwr cwmni trydan, Phil Allen, 52 oed, oedd yn teithio yn y cerbyd.
Cafodd dyn arall, 59 oed o Gwmbran, hefyd ei ladd. Nid yw ei enw wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Dywedodd cyfaill i Stephen Vaughan o Benyrheol ger Abertawe ei fod yn “ŵr ymroddgar a dyn busnes llwyddiannus”. Roedd wedi bod yn briod a’i wraig, Siân, am lai na blwyddyn.
Dywedodd y cyfaill, nad oedd am gael ei enwi: “Mae byd Siân wedi distrywio’n llwyr.
“Doedden nhw ddim hyd yn oed yn briod am flwyddyn.
“Roedd Stevie yn ŵr ymroddgar a dyn busnes llwyddiannus hefyd.
“Rhaid edmygu’r ffordd y gwnaeth e adeiladu’i fusnes a gwneud llwyddiant ohoni.
“Roedd e bob amser yn gwrtais ac yn brydlon ac yn gallu cynnal sgwrs dda hefyd.”
Dywedodd cyfeillion i Phil Allen o Gasllwchwr ger Abertawe fod ei wraig wedi tristau’n ormodol i siarad gyda’r wasg.
Roedd Phil Allen yn dad i ddau o blant ac yn gyfarwyddwr Western Power Distribution yng Nghaerdydd.
Coffa
Cafodd gwasanaeth ei gynnal yng Nghaerfaddon ddoe i goffáu’r pedwar o bobl fu farw.
Cafodd canhwyllau eu cynnau a negeseuon eu gadael ar gynfas arbennig yn ystod y gwasanaeth yn Eglwys yr Holl Seintiau yn Weston ger Caerfaddon.
Dywedodd trigolion lleol eu bod nhw’n ymgyrchu ers tro i dynnu sylw at beryglon Landsdowne Lane lle digwyddodd y gwrthdrawiad.
Rhagor o deyrngedau
Dywedodd pennaeth yr ysgol gynradd gerllaw safle’r gwrthdrawiad y bydd cefnogaeth i blant yr ysgol yn dilyn y digwyddiad.
Bydd llyfrau teyrngedau’n cael eu gosod mewn nifer o lyfrgelloedd yn yr ardal, ac fe fydd teyrngedau a blodau’n cael eu symud i goeden goffa ger eglwys leol.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf y byddan nhw’n cyfweld â gyrrwr y tryc yn fuan, ond mae’r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd teulu Mitzsi Steady mewn teyrnged eu bod nhw’n “ei charu ac yn gweld ei heisiau”.
Dywedodd yr ysgol feithrin lle’r oedd Mitzi’n ddisgybl: “Mae ein calonnau gyda’i theulu yn y cyfnod anodd hwn.
“Byddwn bob amser yn gweld eisiau ei gwên a’i chynhesrwydd.”