Mae Aelodau Cynulliad yn y gogledd wedi lleisio pryderon y gall mamau yng Nghlwyd orfod teithio i Wynedd neu Wrecsam os fyddan nhw’n profi anawsterau yn ystod genedigaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cyfarfod heddiw i drafod israddio adran famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am flwyddyn o ganlyniadau i broblemau recriwtio.
Cafodd Aelodau’r Cynulliad wybod am y cynlluniau ddoe a byddai’r cynigion yn gweld genedigaethau mwy cymhleth yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael eu trosglwyddo i naill ai Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam, a fydd yn cadw eu gwasanaethau.
Daw’r newydd naw mis yn unig ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gyhoeddi y byddai canolfan gofal dwys i fabis newydd yn cael ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud y bydd y ganolfan yn parhau i fynd yn ei blaen er gwaetha’r cynigion i israddio rhan arall o’r adran.
‘Gwarthus’
Mewn datganiad ar y cyd, mae AC Llafur Dyffryn Clwyd, Ann Jones ac AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar, wedi beirniadu’r cynigion.
Dywedodd Ann Jones bod y cynigion yn “warthus” a bod y Bwrdd Iechyd heb ymgynghori ar y mater.
Meddai Darren Millar eu bod nhw’n rhoi bywydau mamau a babanod mewn perygl.
Ychwanegodd: “Rwy’n pryderu bod y diffyg cynnydd o ran cyflwyno’r ganolfan gofal dwys ar gyfer babis newydd ym Modelwyddan yn arwydd bod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i roi’r gorau i’w gynlluniau ar gyfer y cyfleuster. Os ydynt yn wirioneddol yn ymroddedig yna Glan Clwyd fyddai’r lle olaf i gael gwared a’r gwasanaethau.
“Mae angen i’r Bwrdd Iechyd edrych eto ar y cynlluniau, cael rhywfaint o gysylltiad â rhanddeiliaid a dod yn ôl gyda chynigion mwy synhwyrol sydd â chefnogaeth eang.”