Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi awgrymu nad yw pob pecyn ariannol gafodd ei roi i weithwyr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru oedd yn gadael eu gwaith yn gynnar wedi dilyn y drefn ffurfiol ddisgwyliedig.
Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, dywedodd yr Archwilydd bod £254 miliwn wedi cael ei wario ar becynnau dros gyfnod o bron i bedair blynedd ond nad oedd rhai ohonyn nhw wedi defnyddio achos busnes.
Roedd pryder hefyd nad oedd rhai pecynnau, yn enwedig y rhai costus i uwch reolwyr, wedi arbed arian i’r gweithlu yn y pen draw.
Bu’r Archwilydd yn holi 58 o gyrff cyhoeddus rhwng Chwefror a Mehefin 2014 ac yn edrych ar y defnydd a wnaed o gynlluniau ymadael cynnar ers Ebrill 2010.
Ystadegau
Rhwng mis Ebrill 2010 a Rhagfyr 2013, fe wnaeth 10,658 o staff o’r 58 corff cyhoeddus yng Nghymru adael eu gwaith yn gynnar.
Digwyddodd tua 72% o’r ymadawiadau cynnar yn yr awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol. Cyrff y GIG oedd yn cyfrif am 11% a Llywodraeth Cymru am 9%.
“Mae’n hollbwysig rheoli’r ymadawiadau cynnar yn iawn fel y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd gwasanaethau’n dal ar gael ac y bydd yr arbedion a addawyd yn digwydd,” meddai’r Archwilydd Huw Vaughan Thomas.
“Gall y costau y bydd angen eu talu ymlaen llaw wrth i staff ymadael yn gynnar fod yn sylweddol ac mae f’adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd craffu’n ddigonol ar becynnau, yn enwedig y rhai costus fel pecynnau i uwch reolwyr.”
Argymhellion
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:
- ddefnyddio achos busnes bob tro y bydd ymadawiad cynnar, i wybod beth yw’r gost a beth yw’r goblygiadau o ran darparu gwasanaeth os bydd yr unigolyn yn ymadael;
- craffu ar gynlluniau ymadael cynnar i weld a ydynt yn rhoi gwerth am arian, fel rhan o drefniadau llywodraethu presennol cyrff cyhoeddus;
- trefniadau ar gyfer cadw cofnodion; a
- sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cydweithio â llywodraeth leol er mwyn cytuno rhai egwyddorion cyffredin i fod yn sail i unrhyw drefniadau ymadael cynnar a fydd yn digwydd yn sgil uno awdurdodau lleol.
Ymateb
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar: “Roedd adroddiad diweddar y Pwyllgor ar dâl uwch reolwyr yn nodi’n pryder ynghylch sicrhau tryloywder wrth roi taliad i staff pan fyddant yn gadael eu swyddi.
“Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu ynghylch yr arfer o ailgyflogi staff mewn rhan arall o’r sector cyhoeddus ar ôl iddynt dderbyn pecyn gadael gan gyflogwr blaenorol. Mae hyn yn fater y mae Llywodraeth y DU yn ystyried deddfu yn ei gylch.
“Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ei gyfarfod heddiw.”