Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o ymosodiad rhywiol difrifol yng Nghaerdydd fore Sadwrn.

Bydd dyn 29 oed a dyn 22 oed yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn tŷ yn ardal Trowbridge y brifddinas ar ôl i’r ddau gyfarfod â’r dioddefwr yng nghlwb Live Lounge rhwng 1.30yb a 3.30yb fore Sadwrn.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion a welodd y ddau ddyn yn y clwb, ac maen nhw’n awyddus i siarad â grŵp o ddynion oedd yn y clwb y noson honno.

Dywed yr heddlu eu bod nhw hefyd am siarad â dyn a dynes oedd yn siarad â’r ddau ddyn a’r dioddefwr yn y clwb.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.