Cafodd plentyn ei gludo i’r ysbyty y bore ma wedi i gar daro yn erbyn wal yng Nghlwb Rygbi Llandaf yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 10.20yb yn dilyn y digwyddiad.
Dioddefodd y plentyn fân anafiadau, ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu’r De wrth Golwg360 na chafodd unrhyw un arall ei anafu, a bod y digwyddiad yn cael ei drin fel “damwain gymharol fach”.