Ynys Môn a Gwynedd oedd â’r gyfradd uchaf o droseddau rhyw gan blant o blith holl siroedd Cymru a Lloegr, yn ôl ffigyrau newydd.

Datgelwyd bod 13 o droseddau wedi cael eu cyflawni am bob 10,000 o blant sy’n byw yn y ddwy sir y llynedd.

Roedd y ffigyrau yn cynrychioli cynnydd sylweddol o’r flwyddyn gynt, pan gafodd un drosedd yn unig ei chofnodi.

Mae ymgyrchwyr elusennau plant wedi dweud mai’r mynediad i ddelweddau pornograffig ar y We sydd wrth wraidd y cynnydd.

Ffordd o fyw

Dywedodd Sue Walls, rheolwr canolfan NSPCC Prestatyn bod y ffigyrau ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd yn “bryderus iawn”.

“Mae cael mynediad i bornograffi israddol a threisgar yn medru bod yn ffordd o fyw i rai plant y dyddiau yma, ac rydym yn pryderu bod y delweddau yn gwneud iddyn nhw feddwl bod hyn yn dderbyniol,” meddai.

“Os yw plant mor ifanc ag oed ysgol gynradd yn cyflawni’r troseddau hyn, mae’n rhaid gofyn a ydyn nhw wedi gweld gweithgareddau rhywiol ac yn copïo.

“Ond mae modd rhoi cymorth i’r plant hyn ac mae’n rhaid adnabod yr arwyddion yn gynnar.”

Yng Nghonwy a Sir Ddinbych, cafodd dwy drosedd rywiol ymysg plant 10-14 oed eu cofnodi. Ni chafodd troseddau eu cofnodi yn Sir y Fflint a Wrecsam.