Enid Jones y tu allan i'w chartref yn Aberystwyth
Fe fydd tŷ dynes oedrannus, gafodd ei gorfodi i symud er mwyn caniatáu i ddatblygiad gwerth miliynau o bunnau fynd yn ei flaen, yn cael ei ddymchwel heddiw.

Enid Jones oedd yr unig un ar Heol Glyndŵr yn Aberystwyth oedd wedi gwrthod gadael i Gyngor Ceredigion brynu ei thŷ er mwyn cael adeiladu siopau Tesco a Marks & Spencer ar y safle.

Roedd y wraig 60 oed yn dadlau fod ei chartref hi’n ddelfrydol ar gyfer ei hanghenion, gan ei bod yn dioddef o glefyd y siwgr.

Ond wedi i’r cyngor ennill cefnogaeth Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, trwy ddweud fod y datblygiad o fudd i’r cyhoedd,  bu’n rhaid i Enid Jones adael ei chartref.

Erbyn hyn, mae’r gwaith wedi cychwyn ar ddymchwel y deuddeg tŷ ar y stryd.

Mae disgwyl i’r siopau newydd agor erbyn 2016 yn ôl Cyngor Ceredigion, sy’n dweud y bydd y datblygiad yn cyfrannu rhwng £1.6 miliwn a £3.5 miliwn at yr economi leol.