Y Comisiynydd Plant, Keith Towler
Fe fydd enw Comisiynydd Plant newydd Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.
Bydd yn olynu’r Comisiynydd presennol, Keith Towler, fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl saith mlynedd fel pencampwr annibynnol tros faterion plant a phobol ifanc yng Nghymru.
Mae’r broses o benodi ei olynydd wedi dechrau ers 23 Ebrill y llynedd ond ni chafodd unrhyw un ei benodi i’r swydd yn ystod rownd gyntaf y broses recriwtio oherwydd yr ad-drefnu wnaeth Carwyn Jones i’w gabinet.
Fe ddywedodd Keith Towler ddydd Llun bod oedi o fewn y broses recriwtio wedi bod yn “rhwystredig”.
Mae disgwyl i’r cyhoeddiad gael ei wneud gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, am hanner dydd.