Leighton Andrews
Nid yw’r chwe chyngor yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn uno wedi cyflwyno ceisiadau ddigon cryf i wneud hynny, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol.
Dywedodd Leighton Andrews heddiw ei fod wedi’i “siomi” o orfod gwrthod y ceisiadau am nad oedden nhw’n bodloni’r meini prawf.
Chwech o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wnaeth fynegi diddordeb ffurfiol mewn uno hefo’r cyngor cyfagos yn unol ag argymhellion Comisiwn Williams – sydd wedi awgrymu cwtogi nifer y cynghorau i unai 10,11 neu 12 – sef:
- Cyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych;
- Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg;
- Cyngor Torfaen a Chyngor Blaenau Gwent.
Cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais o ddiddordeb mewn uno ar 28 Tachwedd, dywedodd sawl cyngor nad oedden nhw’n gweld gwerth ariannol mewn uno hefo’u cymdogion.
Symud ymlaen
Meddai Leighton Andrews: “Rwy’n croesawu’r arweinyddiaeth a ddangosir gan arweinwyr gwleidyddol pob un o’r awdurdodau o dan sylw a’u parodrwydd i helpu i lunio eu dyfodol.
“Rwyf wedi ystyried pob Datganiad o Ddiddordeb yn ofalus yn erbyn y meini prawf a nodir yn y prosbectws.
“Mae’n siomedig i mi nodi, ar sail yr asesiad hwn, nad wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un o’r datganiadau hyn o ddiddordeb yn bodloni’r meini prawf yn ddigonol ar gyfer symud ymlaen i baratoi Cynnig Uno Gwirfoddol llawn.”
Cafodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) ei gyhoeddi ddoe sy’n cynnwys darpariaethau i alluogi Uno Gwirfoddol y byddai angen cytuno arnynt erbyn 30 Tachwedd 2015.
‘Siom’ y cynghorau
Mae Arweinwyr Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych wedi mynegi siom a syndod yn dilyn cyhoeddiad Leighton Andrews.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans OBE, bod y Gweinidog Llywodraeth Leol wedi “colli cyfle go iawn” trwy wrthod y ceisiadau.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Hugh Evans: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn sioc ac yn amlwg bydd angen i ni yn awr ystyried ein sefyllfa.
“Conwy a Sir Ddinbych oedd y cynghorau cyntaf yng Nghymru i ddatgan diddordeb yn gyhoeddus yn y posibilrwydd o uno a ni oedd yr unig gynghorau i gyflwyno datganiad o ddiddordeb yn seiliedig ar y ffiniau a awgrymwyd gan Gomisiwn Williams ac yn seiliedig ar Bapur Gwyn y Gweinidog ei hun ar ad-drefnu llywodraeth leol.
“Rydym yn teimlo bod yna achos cryf iawn ar gyfer uno a hwn yn bendant oedd y dull cywir.
“Roeddem hefyd wedi derbyn adborth gan ymgynghorwyr y Gweinidog, yn nodi y byddai’r Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer uno gwirfoddol rhwng Conwy a Sir Ddinbych yn cael eu cymeradwyo ac y byddai unrhyw faterion a nodwyd yn cael eu datrys pan fyddai’r achos busnes llawn wedi ei lunio.”
Ychwanegodd Arweinydd Conwy, y Cynghorydd Dilwyn Roberts, bod ganddo “ddiddordeb mawr” i wybod mewn rhagor o fanylder resymau’r Gweinidog dros beidio â chefnogi’r Datganiad o Ddiddordeb.
Agenda arall
Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru: “Roedd sawl awdurdod lleol wedi cyflwyno eu cynigion ar gais y gweinidog, ond mae o wedi dewis anwybyddu eu hawgrymiadau yn llwyr.
“Mae ganddo gynlluniau eraill yn amlwg. Rhaid iddo fod yn onest gyda’r Cynulliad a dweud wrthym yn union beth yw ei gynllun.”