Y Canghellor George Osborne
Roedd economi Prydain wedi tyfu 2.6% yn 2014 ond roedd twf wedi arafu yn fwy na’r disgwyl yn ystod tri mis ola’r flwyddyn, yn ôl ffigurau swyddogol.
Dyma’r cynnydd blynyddol cyflymaf ers 2007, cyn y dirwasgiad, ac mae’n awgrymu mai economi’r DU oedd wedi tyfu gyflymaf y llynedd o’i gymharu ag economïau mwyaf y byd.
Ond roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi codi o 0.5% yn unig yn y pedwerydd chwarter, yn bennaf oherwydd bod y diwydiant adeiladu wedi crebachu.
Yn 2013, roedd yr economi wedi tyfu 1.7%.
Mae disgwyl i ffigurau’r Unol Daleithiau gael eu cyhoeddi ddydd Gwener. Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) yn amcangyfrif y bydd yr economi wedi tyfu 2.4%.
Mae’r Canghellor George Osborne wedi croesawu’r ffigurau gan ddweud bod y twf economaidd “ar y trywydd iawn” ond, fe rybuddiodd, “gyda 100 diwrnod i fynd cyn yr etholiad cyffredinol nid dyma’r amser i roi’r gorau i’r cynllun i adfer yr economi.”