Morgan Owen
Mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol i’n hunaniaeth ni, yn ôl Morgan Owen sydd wedi ymateb i flog Lydia Ellis …

Cafwyd trafodaeth danbaid yn ddiweddar ar fater yr iaith Gymraeg ar Facebook a golwg360; yn benodol, agwedd negyddol y Cymry tuag at y di-Gymraeg ynghyd â’u ffordd gul honedig o feddwl.

Ni fyddai’n talu i mi ddyfynnu o’r cruglwyth o lyfrau ac ysgrifau a sgwennwyd am hyn o beth.

Fe wnâi felly ymatal rhag llusgo geiriau pwysfawr Saunders Lewis i mewn i’r ddadl, er mor addas ydynt, oherwydd y bu’r ddadl wreiddiol mor amddifad o ymchwil ac awdurdod; ac yn wir, nid oes rhaid i unrhyw un lafurio yn y llyfrgell i gael hyd i synnwyr cyffredin.

Gwrth-ddweud

Yn y bôn, dadleuwyd mai rhyw fath o ardd gaeedig yw’r bywyd Cymraeg na chaiff neb loches ynddi oni bai ei fod yn arddel safbwynt gwleidyddol arbennig (pleidleisio dros Blaid Cymru) a’i fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith (sefydliad sydd o dro i dro yn feirniadol o Blaid Cymru!).

Ac anwybyddu ffolineb amlwg y gwrthddywediad uchod, y peth mwyaf brawychus am y rhefru hwn yw ei fod yn ystrydebu holl siaradwyr Cymraeg, sef yr union beth yr honnwyd i siaradwyr Cymraeg hwythau ei wneud parthed y di-Gymraeg!

Dywedwyd yn gwbl ddi-sail bod balchder yn yr iaith, neu hyd yn oed yr awydd i’w hamddiffyn, yn ymgnawdoliad o genedlaetholdeb peryglus ac nid oes raid i ni fel cenedl ddiffinio ein hunain yn ôl ein hiaith.

Dyma’r maen tramgwydd. Heb yr iaith, ni fyddem yn genedl; pe na bai’r iaith Gymraeg yn iaith fyw ar ein tir, ni fyddem heddiw yn dadlau am y cysyniad o genedl Gymreig yn y lle cyntaf.

Dim sofraniaeth

Fe wnâi ymhelaethu. Yn anffodus, nid oes y fath wlad â Chymru’n bodoli yn swyddogol fel gwladwriaeth sofran. Er bod gennym ymwybyddiaeth o’r hyn yw Cymru, darn o dir ydyw yn rhan orllewinol y Deyrnas Unedig yng ngolwg y drefn sydd ohoni.

Rydym ni a aned neu a drig y tu mewn i’r darn hwn o dir yn ddinasyddion y DU. Yn hyn o beth, nid oes dim yn ein gwahanu yn gyfreithiol oddi wrth drigolion eraill y DU. Yn gam, ‘Prydeinwyr’ ydym ar bapur.

Ymhellach, nid ni sydd yn rheoli’r hyn sydd yn digwydd ar y darn hwn o dir a elwir yn Gymru; braint llywodraeth Seisnig yn Llundain yw honno. Felly nid yw ein geni o fewn ffiniau Cymru yn golygu dim.

Ond nid ydym er hynny yn genedl Gymreig ar sail ein gwaed, am nad oes gan neb waed Cymreig. Nid adwaen gwaed genedligrwydd. Tarddodd teulu bob un ohonom o rywle arall yn y pen draw.

Felly beth sy’n ein gosod ar wahân? Yr iaith Gymraeg, yn syml.

Conglfaen ein hunaniaeth

Mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad o fewn un diriogaeth – Cymru. Mae’r iaith hon yn nodwedd unigryw’r darn hwn o dir a dim ond trwy’r iaith yr ydym yn wahanol.

Hebddi, does dim gennym i dystio i’n harwahanrwydd. Nid yw tîm rygbi, ambell i gân Saesneg mabwysiedig a manion distadl eraill yn gefn i genedl.

Mae hyd yn oed y di-Gymraeg yn dibynnu ar fodolaeth yr iaith i allu galw eu hunain yn Gymreig , oblegid heb fod yr iaith yn iaith fyw, bydd ein holl hanes hyd at yn ddiweddar iawn yn ddiystyr ac yn hollol ferfaidd.

Dylem, felly, seilio ein cenedligrwydd ar ein hiaith. Pan fo cynifer o ‘Brydeinwyr’ bondigrybwyll yn lladd arnom am feiddio siarad ein hiaith, sef yr unig beth a wnawn yn genedl Gymreig, ergyd angheuol iddi yw pob Cymro a Chymraes sy’n mewnoli’r gorthrwm a wynebwn a throi yn hunangasáwyr.

‘Hawliau a chydraddoldeb i bawb … ond ni’ yw eu bloedd. Gall unrhyw un ddysgu iaith, felly mae’n sylfaen eang a democrataidd i genedligrwydd.

Nid cul o gwbl mo’r pwyslais ar ein hiaith fel conglfaen ein hunaniaeth.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ysgrifennwyd y blog hwn fel ymateb i flog ‘Cymry Cymraeg yn teimlo fel estroniaid’ gan Lydia Ellis.