Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi canslo llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd a Llandochau oherwydd pwysau “aruthrol” ar y gwasanaeth.
Mae’r bwrdd yn ceisio cysylltu â chleifion i roi gwybod iddyn nhw am y trefniadau ond maen nhw’n gofyn i gleifion sy’n ansicr am y sefyllfa i ffonio 02920 748 181 am gyngor.
Dywedodd llefarydd y bydd yr apwyntiadau yn cael eu had-drefnu cyn gynted a bo modd.
“Yn sgil pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau, mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cymryd sawl mesur anghyffredin heddiw er mwyn rheoli gofal cleifion yn ddiogel,” meddai Prif Swyddog y bwrdd iechyd, Alice Casey.
“Mae ein staff yn cael eu cyfarwyddo ar sut i ddelio gyda’r sefyllfa ac yn anffodus mae hi wedi bod yn angenrheidiol i ganslo ac ail-drefnu gweithgareddau i gleifion allanol.
“O ganlyniad mae apwyntiadau allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Prifysgol Llandochau wedi’u canslo heddiw, oni bai am driniaethau cardiaidd, dermatoleg, haematoleg, clinigau iechyd meddwl, offthalmoleg, deintyddiaeth, clinigau plant a chlinigau torasgwrn.”
Daw wrth i ddau arolwg barn a gyhoeddwyd heddiw ddangos fod hyder yn y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru wedi plymio dros y flwyddyn a hanner diwethaf.
‘Pryder’
Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y cyhoeddiad yn destun pryder.
Meddai Darren Millar: “Gall canslo llawdriniaethau ac apwyntiadau ar fyr rybudd fod yn drallodus iawn, heb sôn am fod yn rhwystredig ac anghyfleus i gleifion a’u teuluoedd a allai fod wedi newid eu cynlluniau ar gyfer ymweliad ysbyty.
“O ganlyniad i gyllidebau Llywodraeth Llafur, Cymru yw’r unig ran o’r DU sydd wedi gweld gostyngiad mewn gwariant yn y GIG mewn termau real.
“Mae’n destun pryder bod penaethiaid bwrdd iechyd wedi cymryd y cam eithriadol yma a fydd yn cynyddu’r pwysau yn y dyddiau, wythnosau a’r misoedd nesaf pan fydd yr holl apwyntiadau a llawdriniaethau yn gorfod cael eu hail drefnu.”