Mae dyn 20 oed wedi cael arestio yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i ddigwyddiad yn Nhrebiwt toc cyn 11 o’r gloch nos Sadwrn.

Mae’r dyn 29 oed yn derbyn triniaeth am anafiadau difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond dydy ei anafiadau ddim yn debygol o beryglu ei fywyd.

Mae’r dyn 20 oed yn cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.