Mark Drakeford
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £10 miliwn a fydd yn golygu y gellir dod â gwasanaethau gofal proffesiynol yn nes at gartrefi pobl.

Wrth annerch ail gynhadledd prif weithredwyr y GIG ar ofal sylfaenol heddiw yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y bydd y gronfa gofal sylfaenol yn helpu i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a’u timau ac yn lleihau’r galw ar ofal ysbytai.

Bydd y rhan fwyaf o’r gronfa yn cael ei ddyrannu i’r 64 o ‘glystyrau’ gofal sylfaenol ledled Cymru – grwpiau o feddygfeydd teulu yn cydweithio gyda gwasanaethau cymunedol fel fferyllwyr, deintyddion, optometryddion, therapyddion, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd.

Mae’r clystyrau hefyd yn gweithio gyda phob math o wasanaethau y mae gwirfoddolwyr yn eu darparu mewn cymunedau a byddant yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau iechyd i grwpiau o rhwng 25,000 a 100,000 o bobl.

Mae £1m yn cael ei ddyrannu i nifer o brosiectau er mwyn helpu i gyflawni’r cynllun gofal sylfaenol. Mae’r rhaglen hon o waith cenedlaethol yn cael ei llunio ar y cyd gan fyrddau iechyd.

Gweithlu medrus’

Dywedodd yr Athro Drakeford eu bod yn bwriadu canolbwyntio mwy ar ofal yn y gymuned,

Meddai, “Ry’n ni’n symud o ganolbwyntio ar ofal mewn ysbytai i wella iechyd y cyhoedd a gofal yn y gymuned.”

Ychwanegodd:  “Bydd y buddsoddiad dwi’n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi ein clystyrau gofal sylfaenol lleol i fuddsoddi mewn gweithlu medrus, datblygu gwasanaethau yn ôl galw, a lle bo’n bosibl, darparu gofal yn agosach at gartrefi pobl, gan leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a’u timau a’r galw am wasanaethau ysbytai.